P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser
Geiriad y ddeiseb:
Dylai myfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser gael pas bws Arriva am ddim. Mae myfyrwyr sydd yn y coleg ac yn gorffen ar ôl hanner dydd yn gorfod aros tan bump o’r gloch i ddal y bws sydd wedi’i ddarparu ar eu cyfer. Ni all rai myfyrwyr fforddio tocyn bws (Arriva) oherwydd incwm isel eu rhieni a’r ffaith nad ydynt yn deilwng i dderbyn lwfans cynhaliaeth addysg neu grant dysgu’r Cynulliad.
Prif ddeisebydd: Myfyrwyr Coleg Llandrillo
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 24 Ionawr 2012
Nifer y deisebwyr: 15